Ni fydd deddfau sbecian yn rhoi’r hawl i awdurdodau edrych ar hanes pori defnyddwyr y we, yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Mae’r deddfau newydd wedi cael eu beirniadu am gynnig ychydig iawn o breifatrwydd.

Bydd amodau’r Bil Pwerau Ymchwilio yn cael eu hamlinellu ddydd Mercher, ond dim ond os bydd rheswm teilwng y caiff awdurdodau’r hawl i chwilio hanes pori unigolion.

Dywedodd Theresa May wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Os oes gofynion mwy ymwthiol yna, wrth gwrs, mae angen gwarant ar gyfer hynny.”

Ychwanegodd y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn “fwy cynhwysfawr na’r ddeddfwriaeth flaenorol”.

Dywedodd ei bod hi’n gyfrifol am awdurdodi mwy na 1,400 o warantau bob blwyddyn.

Dywedodd llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Andy Burnham fod angen deddf newydd.

Dywedodd wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Mae’r byd ar-lein wedi creu mannau cudd na all yr awdurdodau eu gweld bellach.

“Fydda i ddim yn chwarae gwleidyddiaeth o ran y mater hwn.”