Mae cwmni technoleg wedi dewis Ceredigion ar gyfer safle eu pencadlys, gyda’r bwriadu o greu 50 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd cwmni Delineate, sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), yn sefydlu eu canolfan yn Llandysul. Eu cwsmeriaid ydy brandiau bwyd a diod fawr ar draws y byd.

Rhan bwysig o strategaeth busnes Delineate yw ei pholisi recriwtio ‘Cymru’n gyntaf’, gyda’r holl swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yng Nghymru yn gyntaf. Mae 60% o’r tîm yn Gymry Cymraeg. Mae Delineate hefyd yn cyflwyno cyfleoedd dysgu’r iaith i aelodau o’r tîm sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg.

Mae Delineate wedi cael cefnogaeth ariannol drwy raglen ARFOR Cyngor Sir Ceredigion a chronfeydd eraill fel ‘Cynnal y Cardi’. Rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw ARFOR sy’n gweithredu yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith Gymraeg; yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i ddefnyddio entrepreneuriaeth a datblygiad economaidd i gynnal yr iaith.

‘Newyddion da i bobl ifanc yr ardal’

Nod strategaeth economaidd Cyngor Sir Ceredigion yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc sydd eisiau aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Rydym yn croesawu’r newyddion am fusnes arloesol arall sydd wedi’i leoli yng Ngheredigion. Fel sir sydd gyda dwy brifysgol a gwaith ar y gweill i ddatblygu ein seilwaith digidol ymhellach, mae Ceredigion yn cynnig cyfle i fusnesau fel Delineate. Mae hefyd yn cyd-fynd â’n Strategaeth Economaidd i weithio ar y cyd tuag at sicrhau twf economaidd cryf, cynaliadwy a mwy gwydn.

“Nid yn unig y mae’r newyddion yma’n dda i fusnesau, ond hefyd i bobl ifanc yn yr ardal a allai, heb y cyfleoedd twf hyn, wynebu dyfodol gwahanol iawn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy am y busnes, pam eu bod yn falch o fod yng ngorllewin Cymru, a sut maent yn bwriadu buddsoddi ymhellach yn eu cymuned.”