Fe fydd Plaid Lafur yr Alban yn trafod adnewyddu cytundeb Trident ddydd Sul wrth i’w cynhadledd flynyddol ddirwyn i ben.

Cytunodd aelodau lleol ac undebau llafur ddydd Sadwrn y byddai cynnig yn gwrthod Trident yn cael ei drafod ar ddiwrnod ola’r gynhadledd.

Fe allai’r mater achosi ffrae o fewn y Blaid Lafur, gan fod safbwyntiau Jeremy Corbyn a Kezia Dugdale yn gwbl groes i’w gilydd.

Tra bod Dugdale yn cefnogi Trident, mae Corbyn yn gryf yn ei erbyn, ac mae lle i gredu y gallai hynny arwain at gael dau bolisi cyferbyniol yn Lloegr a’r Alban.

Ar hyn o bryd, mae Trident wedi’i leoli yn Faslane ar lannau’r afon Clud.

Wrth annerch y gynhadledd yn Perth ddydd Sadwrn, dywedodd Jeremy Corbyn y dylai aelodau wneud penderfyniad “er lles yr Alban”.

“Beth bynnag rydych chi’n ei benderfynu, rhaid ei fod yn unol â gweithwyr a allai deimlo dan fygythiad a chymunedau a allai deimlo’n fregus.”

Ychwanegodd fod diogelu swyddi’n brif flaenoriaeth y blaid, ond y dylid trosglwyddo sgiliau’r gweithwyr i ddiwydiannau eraill.

Mae disgwyl i Unison ac Uno’r Undeb wrthwynebu Trident, tra bod GMB yr Alban yn ei gefnogi.

Mae gan undebau llafur 50% o’r bleidlais, tra bod canghennau lleol y blaid yn berchen ar y 50% sy’n weddill.