Mae bron i chwe miliwn o weithwyr yng ngwledydd Prydain yn derbyn llai na’r cyflog byw, yn ôl astudiaeth newydd.

Gweithwyr rhan-amser, menywod a gweithwyr ifainc sydd fwyaf tebygol o dderbyn llai na’r cyflog byw, meddai cwmni cyfrifwyr KPMG.

£7.85 yw’r cyflog byw ar hyn o bryd, ond nid yw’n orfodol ar hyn o bryd i weithwyr dderbyn y swm hwnnw.

Mae nifer y bobol sy’n derbyn y cyflog byw wedi cynyddu dair blynedd yn olynol.

Mae’r cyflog byw yn sylweddol uwch na’r isafswm cyflog.