Mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio o Hyde Park i San Steffan yn Llundain fel rhan o brotestiadau Kill the Bill.

Cerddodd protestwyr heibio Palas Buckingham ac i lawr i Sgwâr y Senedd, gyferbyn â Dau Dŷ’r Senedd.

Roedd heddlu o amgylch Whitehall a Stryd Downing a nifer swyddogion o amgylch cerflun Syr Winston Churchill.

Anogodd siaradwyr protest Kill the Bill i bawb barchu ymbellhau cymdeithasol wrth i’r dorf dyfu.

Roedd nifer o fenywod yn annerch y dorf ac yn rhannu profiadau personol o ddioddef camdriniaeth.

Yn y cyfamser, cynhaliodd protestwyr gwrth-gloi eu protest eu hunain, gyda chefnogaeth Piers Corbyn, brawd y cyn-arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.

Hefyd yn Hyde Park roedd grŵp protest amgylcheddol y Frigâd Goch, a welwyd yn aml yn arddangosiadau Extinction Rebellion.

Cynhaliwyd protestiadau eraill ledled Lloegr y penwythnos hwn gyda channoedd o bobl yn Newcastle.