Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i daclo cwch ar dân oddi ar y marina yng Nghonwy.

Does yna ddim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn â faint o bobl sydd ar fwrdd y cwch.

Galwyd am gymorth yn gynharach y prynhawn yma ac mae’r Heddlu lleol yn ogystal â chriwiau o’r bad achub lleol (RNLI), yr harbwr feistr yng Nghonwy, Gwylwyr y Glannau a Gwasanaeth Tan ac Achub y Gogledd wrthi yn ceisio delio a’r broblem ar hyn o bryd.

Dywedodd llygad dystion fod fflamau’r tân a mwg yn chwyrlio yn uchel uwchben y cwch i’w gweld yn glir.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi apelio ar i bobl lleol gadw’n glir a pheidio mynd yn agos i’r safle tra mae nhw yn delio â’r digwyddiad.