Mae’r heddlu wedi cael pwerau arbennig i atal rhagor o dorfeydd mawr rhag ymgynull eto ym Mae Caerdydd.

Mae nhw hefyd wedi arestio tri o bobl ar ôl i gannoedd gynnal ‘parti’ are risiau’r Senedd – er gwaethaf y pandemig.

Ac mae’r heddlu wedi cael pwerau gorchymyn gwasgaru pobl dros weddill y penwythnos ym Mae Caerdydd.

Fe dyrrodd cannoedd o bobl ifanc o bob cwr o’r de i Fae Caerdydd neithiwr gan dorri’r rheolau Covid-19 a pheryglu bywydau eu hunain ac eraill.

Roedd yr heddlu yn bresennol ond ni wnaed ymdrech ganddyn nhw ar y pryd i gael gwared â’r dorf anghyfreithlon ac anystywallt.

Dywedodd llygad dystion nad protest oedd y digwyddiad ond yn hytrach ‘parti’.

Gwelwyd rhai o’r bobl ifanc yn piso ar risiau’r Senedd ac roedd llawer wedi bod yn taflu i fyny.

Cafodd y digwyddiad ei gondemnio gan arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Huw Thomas.

Tunelli o sbwriel

Dywedodd Mr Thomas, wrth golwg360: “Mae’n gyfnod anodd i bob un ohonom ni. Dwi’n deall fod yna bwysau ar unigolion ond mae’r mater yma yn anghyfrifol dwi’n credu. Does dim rheidrwydd fod angen i bobl ifanc ymgasglu mewn un lle. Mae yna ddigonedd o le ar draws de Cymru i fynd i fod mewn lle gwahanol.

“Ond yn amlwg roedd yna bobl yna gyda’r unig fwriad i gael parti – yn gwbwl groes i’r rheolau sy’n parhau mewn lle ac yn dangos diffyg parch really i’r aberth mae pawb mewn cymdeithas wedi ei wneud; yr aberth mae’r Gwasanaeth Iechyd yn benodol wedi ei wneud a’r ffaith bod gweithwyr y cyngor yn gorfod clirio eu mess nhw. Mae yn siomedig tu hwnt.

“Ar ôl be ddigwyddodd nos Fawrth, fe wnaethon ni glirio pum tunnell o sbwriel ac dwi’n deall o neithiwr fod yna fwy o sbwriel i’w weld.”

Dywedodd Mr Thomas fod biniau ychwanegol wedi cael eu gosod yn yr ardal.

Meddai: “Ond yn ôl adroddiadau o’r safle yn gynnar y bore nid oedd y biniau sbwriel yn llawn hyd yn oed ac eto mae’re sbwriel yn amlwg ar draws stepiau’r Senedd felly.”

Dywedodd fod gweithwyr y cyngor wedi bod ar y safle ers yn gynnar yn y bore ac bydd y gost o glirtio “mewn miloedd maen siŵr.”

Nid oedd ganddo syniad pam fod y bobl ifanc wedi dewis mynd at stepiau’r Senedd.

Piso a chwydu

Meddai: “Pam dewis mynd yna, dwi ddim yn gwybod – mae digonedd o lefydd eraill i fynd ym Mae Caerdydd a dim angen i fod yn yr un lle.

“Dwi’n credu o’r lluniau dwi wedi gweld a’r fideos fod yna fwriad i gael parti.  Mae hynny yn siomnedig iawn. Dwi’n deall fod yna bobl o draws de cymru wedi teithio yna.

“Dwi’n meddwl fod angen i’r bobl yma oedd yn y digwyddiad neithiwr i feddwl yn ddwys am ty ffordd y mae nhw wedi bihafio.

“Rydym wedi cael trafodaeth barhaus a synhwyrol gyda busnesau sy’n gwerthu alcohol yn yr ardal ond y gwirionedd ydi os ydi pobl yn benderfynol o dorri rheolau yna mae nhw yn mynd i wneuyd hynny ac os ydyn nhw’n gwneud hynny yna y disgwyl ydi fod yr heddlu yn ymyrryd.

Ychwanegodd Mr Thomas y byddai’n siarad gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu de Cymru, Alun Michael, heddiw ynglŷn â beth fydd ei cynlluniau nhw am heno.

Trydarodd Peter Gillibrand, gohebydd gyda LBC: “Plis peidiwch a disgrifio’r ymgasglu neithiwr fel protest. Roedd yn bopeth ond hynny. Roedd pobl wedi meddwi/yn uchel ac allan o’u pennau – yn partio. Daeth pobl yno am sesh. Yn sicr, roedden nhw yn diystyru rheolau #COVID19 rheolau – ond nid protest ydoedd.”

Ychwanegodd fod pobol yn piso ac yn chwydu ar y llawr wrth ymyl y Senedd.

“Roedd y llawr o flaen y Senedd fel ‘nightclub‘ really, y lloriau yn ‘sticky’ gyda alcohol oedd ‘spew’ i’w gael a pobl yn pisian ar y Senedd yn lle mynd i’r tŷ bach.”

Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gan drydaru i atgoffa pobl fod y pandemig yn parhau i fod yn bresennol.

Heddiw, dywedodd yr Uwcharolygydd Marc Attwell o Heddlu’r De: “Wrth i gyfyngiadau leddfu, mae’r angen am gyfrifoldeb personol yn hollbwysig ac mae’n hynod siomedig bod lleiafrif bach yn fodlon rhoi eu hunain, ac eraill, mewn niwed.

Gwasgaru

“Mae Bae Caerdydd yn arbennig wedi denu torfeydd mawr dros y dyddiau diwethaf. Mae’r ymddygiad a welwyd dros y tridiau diwethaf wedi rhoi pwysau ychwanegol nid yn unig ar yr heddlu ond ar yr awdurdod lleol hefyd, ac wedi golygu bod swyddogion wedi cael eu dargyfeirio o rannau eraill o’r heddlu. Mae ymarferoldeb plismona criwiau mor fawr yn eithriadol o anodd ac mae gennym alwadau brys i fod yn bresennol o hyd.

“Mae gorchymyn gwasgaru Adran 35 bellach mewn grym ym Mae Caerdydd, sy’n rhoi’r pŵer i swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol i wahardd person o’r ardal. Rydym yn gofyn i bobl mewn grŵpiau o chwech neu fwy sy’n ystyried mynychu neu drefnu crynhoad yn y Senedd dros benwythnos Gŵyl y Banc i beidio â gwneud hynny.

“Cafodd tri arestiad eu gwneud neithiwr. Cafodd dyn 20 oed ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus, menyw 22 oed a arestiwyd am fod yn feddw ac yn anhrefnus ac am feddiannu sylwedd Dosbarth A a dyn 35 oed a gafodd ei arestio hefyd am feddiannu sylwedd Dosbarth A.

“Bydd ein swyddogion o gwmpas Bae Caerdydd drwy gydol penwythnos Gŵyl y Banc. Byddem yn annog pobl i fod yn synhwyrol a pheidio â thorri’r rheolau – nid ydym am i neb gael dirwy na wynebu troseddau trefn gyhoeddus.

“Gan nad yw llawer o gyfyngiadau mewn grym mwyach, mae cyfrifoldeb personol yn hollbwysig os ydym am atal trydedd ton o heintiau. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud dewisiadau synhwyrol pan fyddwn allan, cynnal pellter cymdeithasol a peidio â rhoi ein hunain ac eraill mewn perygl diangen.”

  • Oherwydd adroddiadau am bobl ifanc yn ymgasglu ac yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Bodlondeb yng Nghonwy, mae gorchymyn gwasgaru ar waith ar gyfer y penwythnos hwn hefyd gan Heddlu’r Gogledd tan 23.29 o’r gloch nos yfory, Ebrill 4. Mae’r heddlu’n gofyn i’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau tebyg drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.