Mae Shaker Aamer, y carcharor Prydeinig ola’ i gael ei ddal ym Mae Guantanamo, wedi cael ei ryddhau.

Mae ar awyren ar ei ffordd gartre’ ar hyn o bryd, a hynny wedi 13 blynedd dan glo yn Ciwba.

Mae Mr Aamer, 46, yn dweud iddo gael ei ddal yn wreiddiol gan ladron tra’r oedd yn gweithio i elusen yn Afghanistan yn 2001, a hynny’n fuan wedi’r ymosodiadau terfysgol ar Ganolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd.

Fe gafodd ei drosglwyddo i ofal lluoedd America ym mis Chwefror 2002, a’i symud wedi i Fae Guantanamo a’i gyhuddo o gynorthwyo y mudiad eithafol, al-Qaida.

Yn ystod ei 13 blynedd yno, mae ei gyfreithwyr yn dweud iddo gael ei arteithio, ei guro, ei amddifadu o gwsg, a’i ddal mewn unigrwydd am gyfnod o 360 niwrnod.

Er i’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, ofyn i awdurdodau America ei ryddhau yn 2005, fe wrthodwyd y cais.