Tai mewn trefi yn rhatach
Mae pris tai mewn ardaloedd gwledig bron 20% yn uwch yng nghefn gwlad Cymru o’i gymharu ag ardaloedd trefol.

Ond mae hynny’n llawer llai na’r bwlch o 44% rhwng prisiau’r gwahanol ardaloedd ar draws gwledydd Prydain.

Un o’r effeithiau, meddai Cymdeithas Adeiladu Halifax, yw fod llawer llai o bobol ifanc yn llwyddo i brynu tŷ am y tro cynta’ yng nghefn gwlad.

Cymru’n ail

Cymru yw’r ail ranbarth economaidd rhata’ o ran prisiau tai cefn gwlad – de a de-orllewin Lloegr yw’r druta’.

Yng Nghymru, mae tŷ mewn ardal wledig ar y cyfan yn costio ychydig tros £172,500, sydd 19% yn uwch na chyfartaledd pris tŷ mewn ardal drefol.

Mae Sir Gaerfyrddin yn wythfed ar restr yr ardaloedd cyngor sir rhata’ am dai gwledig trwy wledydd Prydain – y pris ar gyfartaledd yno yw £150,185, sydd bump gwaith yn fwy na chyfartaledd cyflogau.

Yn yr ardal ddruta’, yn Tandridge yn ne-ddwyrain Lloegr, mae pris tŷ gwledig bron 11 gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cyflog.

Pris breuddwyd

“Mae llawer o berchnogion tai’n dyheu am fyw yn y wlad, ond mae’r breuddwyd hwnnw’n costio,” meddai Craig McKinlay, cyfarwyddwr morgeisi Halifax.

“Un sgil effaith o’r cynnydd ym mhris eiddo yw bod y gallu i fforddio tŷ yn bryder cynyddol mewn ardaloedd gwledig.”