Fe gafodd dau ddyn eu saethu yn Birmingham yn ystod mân y bore, yn dilyn adroddiadau am anhrefn.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Soho Hill yn Hockley tua 4.30yb, yn dilyn adroddiadau fod criw mawr o ddynion yng nghanol y ffordd, a bod swn gynnau’n cael eu tanio.

Yn ol Heddlu’r West Midlands, fe gafwyd un dyn wedi’i anafu yng nghanol y fforndd, ac fe aeth dyn arall i’r ysbyty ar ei liwt ei hun. Roedd y ddau wedi’u saethu.