Shaun Edwards a Warren Gatland (Llun PA)
Mae chwaraewr rygbi enwoca’ Cymru yn poeni bod yr Undeb Rygbi’n gwneud camgymeriad wrth beidio â rhoi cytundeb newydd i’w hyfforddwr amddiffyn Shaun Edwards.

Yn ôl Gareth Edwards, roedd wedi “edrych tua’r nefoedd” ar ôl clywed y newyddion a meddwl a oedd yr Undeb yn gwneud y peth iawn.

Amddiffyn Cymru oedd y prif reswm tros eu llwyddiant yn ystod y blynyddoedd, meddai’r mewnwr wrth Radio Wales.

Awgrym gan Roger Lewis

Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, sydd wedi awgrymu’n gry’ bod Shaun Edwards ar fin gadael – mae ei gytundeb yn dod i ben fory.

Fe awgrymodd yn gry’ hefyd mai’r hyfforddwr Warren Gatland oedd yn gyfrifol am y penderfyniad, gan ddweud ei fod yn deall os oedd Gatland eisiau newid.

Mewn cyfweliad radio, fe ddywedodd fod yr hyfforddwr yn arbenigwr ar amddiffyn ei hun ac fe fynnodd y byddai Shaun Edwards hefyd yn cael digon o gyfle i gael gwaith, gan awgrymu hefyd y gallai ddod yn ôl i Gymru rhyw dro.

Rhagor o gytundebau canolog

Wrth iddo yntau baratoi i adael yr Undeb, fe ddywedodd Roger Lewis fod ganddyn nhw ddigon o arian bellach i gynnig cytundebau canolog i ragor o chwaraewyr, gan gynnwys rhai fel George North sy’n chwarae yn Lloegr.