Bydd poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu o bron i ddeng miliwn dros y 25 mlynedd nesa’, yn ôl rhagolygon swyddogol.

Fe fydd dwy rhan o dair o’r cynnydd, a fydd yn gwneud i boblogaeth gwledydd Prydain godi o 64.6 miliwn yn 2014 i 74.3 miliwn yn 2039 o ganlyniad i ymfudo ac effaith uniongyrchol y bobol ychwanegol ar y gyfradd geni.

Mae hynny, meddai’r swyddfa ystadegau’r ONS, yn golygu y bydd poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu dros y chwarter canrif nesa’ o’r un faint o bobol ag sy’n byw yn Sweden ar hyn o bryd.

Yn ôl y rhagolygon diweddara’, mae disgwyl i boblogaeth y DU gyrraedd 70 miliwn erbyn canol y flwyddyn 2027, tra bydd yn cynyddu o 4.4 miliwn dros y ddegawd nesa’.

Mae ystadegwyr hefyd yn rhagweld y bydd poblogaeth Prydain yn heneiddio, gydag 1 o bob 12 yn 80 oed neu drosodd erbyn 2039.