Heddiw, fe fydd cyfle i Aelodau Seneddol yn San Steffan drafod credydau treth, wedi i’r mesur dadleuol i dorri’n ôl ar faint y gall weithwyr ei hawlio gael ei drechu yn Nhy’r Arglwyddi ddechrau’r wythnos.

Fe fydd y Senedd yn trafod y cynnig yn galw ar weinidogion i baratoi cynlluniau a fydd yn lliniaru’r toriadau gwerth £4.4 biliwn a fydd yn effeithio’r rheiny sy’n ennill y cyflogau isaf.

Mae naw o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi arwyddo’r cynnig, yn cynnwys David Davis, ac ymgeisydd y blaid i fod yn Faer Llundain, Zac Goldsmith. Mae’r cynnig wedi’i ddrafftio gan yr Aelod Seneddol Llafur, Frank Field er mwyn tanlinellu rhaniadau ymhlith y Torïaid.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud eisoes ei fod yn barod i gyflwyno mesurau yn Natganiad yr Hydref i ysgafnhau’r effaith yn y cyfnod trawsnewidiol pan fydd y sustem newydd yn dod i rym.

Cafodd George Osborne sy’n cael ei weld fel pensaer ir newidiadau hyn gymeradwyaeth pan anerchodd y pwyllgor dylanwadol y Toriaid 1922, gyda Aelodau Seneddol yn curo’r desgiau fel arwydd o gefnogaeth.

Cafodd y Prif Weinidog, David Cameron ei holi yn drwyadl gan Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn ystod sesiwn gwestiynau i’r Prif Weinidog yn gofyn am sicrwydd cadarn na fydd neb yn colli allan o ganlyniad i’r newidiadau.