Liberty Steel, lle mae swyddi wedi'u colli (o wefan y cwmni)
Fe fydd cyfarfod brys o weinidogion yr Undeb Ewropeaidd yn trafod yr argyfwng sy’n wynebu’r diwydiant dur.

Fe gafodd y cyfarfod brys ei alw gan Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Sajid Javid.

Ond fe ddisgrifiodd yr undebau llafur y cyfarfod fel “stynt PR”  wrth i ddegau o weithwyr yn y diwydiant dur lobȉo aelodau seneddol i alw am gymorth brys i’r diwydiant, wrth i filoedd o swyddi gael eu colli.

Miloedd o swyddi’n mynd

Mae miloedd o ddiswyddiadau wedi cael eu cyhoeddi yn y dyddiau diwethaf yng ngweithfeydd Tata Steel yn Scunthorpe a’r Alban, gydag ofnau fod rhagor ar y ffordd.

Mae cwmni Caparo hefyd yn y fantol, gyda pheryg i swyddi mewn ardaloedd fel Wrecsam.

Cafodd cynnig gan y Blaid Lafur ddoe yn galw ar y Llywodraeth i gefnogi a gwarchod y diwydiant ei drechu yn dilyn dadl yn y senedd. Ond fe gafodd gwelliant gan y Ceidwadwyr ei basio yn nodi pryder aelodau seneddol y dylai’r pleidiau gwleidyddol weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo’r diwydiant dur.