Stephen Crabb
Fe ddylai gwleidyddion Cymru roi’r gorau i ddadlau tros fanylion datganoli rhag tynnu sylw oddi wrth faterion fel yr economi.

Dyna fydd neges Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, heddiw wrth i’r anghydfod barhau rhyngddo ef a Llywodraeth Cymru tros y mesur datganoli diweddara’.

Mae’n honni bod y trafod parhaus am Fesur Cymru yn tynnu sylw oddi ar weithredu mewn meysydd fel yr economi.

Anghytuno

Mae’r ddau lywodraeth yn Llundain a Chaerdydd yn anghytuno tros faint o bwerau ddylai gael eu dal yn ôl gan Lywodraeth Prydain a thros alw am drefn gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Fe ddyweodd Stephen Crabb wrth Radio Wales ei fod yn barod iawn i drafod ymhellach a fod “digon o ewyllys da” are i ochre f.

“Ond mae mater mwy,” meddai. “Sut y mae’r pwerau hyn am gael eu defnyddio er mwyn yr economi.”