Mae disgybl 16 oed wedi marw ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad mewn ysgol uwchradd yn Aberdeen yn yr Alban prynhawn ma.

Yn ôl adroddiadau, cafodd y bachgen ei drywanu gan ddisgybl arall, ond nid yw’r heddlu wedi cadarnhau hynny ar hyn o bryd.

Cafodd swyddogion eu galw i Cults Academy, un o ysgolion gorau’r wlad yng ngorllewin y ddinas, am tua 1.30yp prynhawn dydd Mercher.

Dywedodd Heddlu’r Alban bod y bachgen wedi cael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Aberdeen mewn cyflwr difrifol a’i fod wedi marw yn fuan wedyn.

Mae bachgen arall 16 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae’n helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mae ymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau ac fe fydd plismyn ar y safle am beth amser eto.

Dywed Heddlu Aberdeen eu bod yn trin y digwyddiad fel achos o lofruddiaeth.

Mae teulu’r bachgen fu farw wedi cael eu hybysu a dywedodd Cyngor Dinas Aberdeen na fyddai’n rhyddhau rhagor o wybodaeth “oherwydd natur y digwyddiad.”