Mae 25% o Albanwyr o blaid cynnal ail refferendwm annibyniaeth o fewn y flwyddyn nesaf, tra bod 45% o’r farn na ddylid ei gynnal am rai blynyddoedd eto, yn ôl pôl piniwn newydd gan Panelbase ar gyfer y Sunday Times.

Cafodd 1,013 o oedolion yr Alban eu holi ar y we rhwng Mawrth 3-5.

Dywedodd oddeutu 30% y bydden nhw’n cefnogi cynnal refferendwm ymhen dwy i bum mlynedd, tra bod 45% yn cytuno “na ddylid cynnal refferendwm annibyniaeth arall i’r Alban yn y blynyddoedd nesaf”.

Roedd 46% o blaid annibyniaeth, a 47% yn erbyn.

Ond o gynnwys y rhai ansicr, roedd yn 50%-50%.

Daw hyn rai dyddiau ar ôl i ddau bôl arall awgrymu bod y garfan ‘Na’ ar y blaen, er bod mwy o blaid nag yn erbyn ar ddiwedd 2020.

Yr SNP

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, eisoes wedi awgrymu y gallai Llywodraeth yr Alban geisio refferendwm arall yn 2021, saith mlynedd wedi’r refferendwm aflwyddiannus.

Ond mae aelodau blaenllaw eraill yn gwrthod ymrwymo’r naill ffordd neu’r llall.

Mae’r pôl yn awgrymu bod yr SNP ymhell ar y blaen ar drothwy etholiadau Holyrood, gyda 47% o’r bleidlais etholaethol, gyda’r Ceidwadwyr ar 23%, Llafur ar 20%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% a’r Blaid Werdd ar 2%.

O ran y rhanbarthau, mae’r SNP ar 38%, y Ceidwadwyr ar 20%, Llafur ar 17% a’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd ar 6%.