Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi bod gerbron llys eto heddiw (dydd Sul, Mawrth 14) i wynebu cyhuddiad o “bropaganda yn erbyn Iran”.

Dywed ei haelod seneddol, Tulip Siddiq, fod disgwyl dyfarniad o fewn wythnos ond nad oes rhagor o wybodaeth am yr achos ar hyn o bryd.

Cafodd ei charcharu am bum mlynedd yn 2016 wrth i awdurdodau Iran honni ei bod hi’n ysbïwr, a bu’n rhaid iddi orffen ei dedfryd dan glo yng nghartre’r teulu oherwydd sefyllfa Covid-19.

Mae lle i gredu bod y cyhuddiad diweddaraf yn gysylltiedig â dyledion honedig Prydain i Iran.

Yn ôl Richard Ratcliffe, ei gŵr, mae cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch yr achos, yr union gyhuddiadau a pha mor hir fydd y gwrandawiad.

Y barnwr oedd wedi ei charcharu bum mlynedd yn ôl sy’n gyfrifol am y gwrandawiad diweddaraf ac mae’n dweud mai cyflwyno euogfarn yn unig yw pwrpas y llys ond ei fod “yn cymryd ei amser a gall y ddedfryd amrywio”.

Mae e wedi beirniadu Llysgenhadaeth Prydain ar ôl iddyn nhw fethu â mynd gyda’i wraig i’r llys, gan ddweud bod hynny’n “gyfle wedi’i golli” i’w gwarchod hi – ac nid am y tro cyntaf, meddai.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, fe wnaethon nhw “ofyn am fynediad i’r gwrandawiad”.

Daeth archwiliad meddygol diweddar i’r casgliad fod Nazanin Zaghari Ratcliffe wedi cael ei harteithio, ei bod hi’n dioddef o iselder a thrawma difrifol a bod angen asesiad seiciatrydd arni.

Mae grwpiau hawliau dynol yn galw ar y llywodraeth i’w hystyried hi’n ddioddefwr artaith.