Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iwerddon yn galw am oedi cyn rhoi rhagor o frechlynnau AstraZeneca Rhydychen yn dilyn pryderon yn Norwy ei fod yn achosi i’r gwaed geulo.

Mae’r awdurdodau yn Iwerddon wedi bod yn pwyso ar y cwmni i gyflymu’r broses o ddosbarthu cyflenwadau yn y Weriniaeth.

“Does neb wedi dod i’r casgliad fod yna unrhyw gysylltiad rhwng y brechlyn Covid-19 AstraZeneca a’r achosion hyn,” meddai Dr Ronan Glynn.

“Fodd bynnag, gan weithredu ar egwyddor o ragofal, ac wrth aros i dderbyn rhagor o wybodaeth, mae’r Pwyllgor Cynghori Imiwneiddio Cenedlaethol wedi argymell atal rhaglen frechu Covid-19 AstraZeneca yn Iwerddon dros dro.”