George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw ar ôl i’r Llywodraeth golli pleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi tros ddiwygio credydau treth.
Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i gyfyngu ar hawl yr Arglwyddi i wrthod rhagor o’u mesurau.
Fe fydd Osborne yn mynychu cyfarfod o bwyllgor 1922 y meinciau cefn, tra bydd y Prif Weinidog David Cameron, yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, yn wynebu cwestiynau am y bleidlais ac am ymateb y Llywodraeth iddi.
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo Cameron o or-ymateb i ganlyniad y bleidlais drwy sefydlu adolygiad brys mewn ymgais i gyfyngu ar hawliau’r Arglwyddi.
Maen nhw wedi’i gyhuddo o fwlio’r Arglwyddi.
‘Gorymateb’
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae’r Llywodraeth yn cynnal adolygiad i benderfynu sut i amddiffyn gallu llywodraethau etholedig i ddiogelu eu busnes yn y Senedd.
“Byddai’r adolygiad yn rhoi ystyriaeth arbennig i sut i ddiogelu rôl bwysig Tŷ’r Cyffredin etholedig mewn perthynas â (i) ei goruchafiaeth ar faterion ariannol a (ii) deddfwriaeth eilradd.”
Dywedodd y Farwnes Smith o’r Blaid Lafur fod yr adolygiad yn “gor-ymateb” a bod yn gas gan y Prif Weinidog “unrhyw her neu graffu ystyrlon”.
“Os yw hyn yn ymgais pellach i geisio bwlio’r Arglwyddi, yna mae’r Llywodraeth yn tanbrisio pa mor ddifrifol mae’r Arglwyddi o bob plaid yn cymryd eu cyfrifoldebau cyfansoddiadol.”
Mae George Osborne wedi rhybuddio bod “materion cyfansoddiadol difrifol” wedi codi yn dilyn y bleidlais, gan ei bod hi’n anghyffredin i Dŷ’r Arglwyddi wrthwynebu’r Llywodraeth ar faterion y Gyllideb.
Roedd yr Arglwyddi wedi cefnogi dau gynnig ddydd Llun i ohirio’r toriadau i gredydau treth gwerth £4.4 biliwn.
Mae disgwyl cyhoeddiad pellach gan Osborne am y toriadau fis nesaf pan fydd yn traddodi Datganiad yr Hydref. Mae’r Canghellor wedi dweud y bydd yn cyflwyno newidiadau i leddfu effaith y toriadau ar y teuluoedd tlotaf.