Mae Barclays wedi cadarnhau bod Jes Staley wedi cael ei benodi’n brif weithredwr newydd y grŵp.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Rhagfyr ac fe fydd hefyd yn ymuno a bwrdd Barclays fel cyfarwyddwr.

Mae Jes Staley yn olynu Antony Jenkins a gafodd ei ddiswyddo ym mis Gorffennaf yn dilyn perfformiad gwael y grŵp.

Roedd Jes Staley wedi gweithio gyda JP Morgan am fwy na 30 mlynedd cyn gadael yn 2012 i ymuno a chwmni BlueMountain Capital Management.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Jes Staley y byddai’n parhau i adfer ymddiriedaeth yn y sefydliad ac yn hybu gwerth cyfrannau’r grŵp.

Bydd yn cael cyflog o £1.2 miliwn y flwyddyn ond datgelwyd y gallai ennill hyd at £8.2m y flwyddyn os yw’n cyrraedd ei dargedau ac yn derbyn ei fonws llawn.