Mae plentyn 13 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar stad ddiwydiannol Trefforest ym Mhontypridd bnawn ddoe.

Roedd y plentyn ar ei feic ar y safle pan fu mewn gwrthdrawiad a thryc Mitsubishi L200 du am 2.24 bnawn dydd Mawrth, 27 Hydref.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu’r modd yr oedd y cerbyd neu’r beic yn cael eu gyrru, i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1500398385.