Mae bachgen 15 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad ag ‘ymosodiad seiber’ TalkTalk wythnos ddiwethaf bellach wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth.
Cafodd y bachgen ei arestio yng Ngogledd Iwerddon ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a’r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.
Cafodd y bachgen ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn Swydd Antrim a chafodd eiddo ei archwilio.
Mae’r bachgen bellach wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Cafodd miliynau o gwsmeriaid TalkTalk rybudd wythnos ddiwethaf y gallai eu manylion personol fod wedi’u dwyn.