Cleifion yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Peshawar, Pacistan
Mae’r nifer sydd wedi marw yn sgil y ddaeargryn a darodd Afghanistan a Phacistan ddoe wedi cynyddu i dros 300 o bobol.

Roedd y ddaeargryn a darodd de Asia ddoe yn mesur 7.5, ac roedd ei huwchganolbwynt wedi’i lleoli yn ddwfn o dan fynyddoedd yr Hindu Kush yn nhalaith Badakhshan, Afghanistan.

Fe wnaeth y dirgryniadau effeithio ar rannau o Bacistan, Tajikistan, India a China hefyd.

Yn ôl yr awdurdodau , mae 237 o bobol wedi marw ym Mhacistan, a 74 yn Afghanistan. Yn ogystal, mae oddeutu 266 o bobol wedi’u hanafu yn Afghanistan, a miloedd o gartrefi wedi’u difrodi.

Ond, yn ôl yr awdurdodau, mae gweithwyr achub yn ei chael hi’n anodd cyrraedd at bobol mewn ardaloedd pellennig sydd wedi’u heffeithio gan y ddaeargryn.

Mae’r fyddin wedi defnyddio hofrenyddion i gludo nwyddau iddyn nhw, ac mae elusen Oxfam wedi lansio apêl brys yn galw am gymorth i’r rhai sy’n dioddef.

‘Cysgu yn yr awyr agored’

“Mae gennym dimau yn gweithio gydag awdurdodau a sefydliadau lleol yn asesu maint y difrod a be sydd ei angen ac mae gennym dimau yn barod i ymateb ble mae angen,” meddai Jane Cocking, Cyfarwyddwr Dyngarol Oxfam.

Mae’r elusen yn galw am gymorth wrth iddyn nhw bryderu am les y dioddefwyr sy’n cysgu yn yr awyr agored am eu bod nhw’n ofni dychwelyd i’w cartrefi oherwydd effaith ôl-dirgryniadau.

“Rydym yn disgwyl y bydd pobol yn ofnus o ôl-gryniadau ac yn debygol o fod yn cysgu yn yr awyr agored.

“Byddant angen lloches rhag y tywydd, bwyd, dŵr glân a deunyddiau glendid hanfodol fel sebon. Mi fydd hi’n aeaf yn fuan iawn ac mae pobol angen lloches i’w cadw’n gynnes wrth i’r tymheredd ddisgyn,” ychwanegodd Jane Cocking.

Maen nhw’n galw ar bob i gyfrannu i’r achos drwy eu gwefan, neu i ffonio 0300 200 1999.