George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi y bydd yn amlinellu newidiadau i’w gynlluniau i dorri credydau treth ar ôl iddyn nhw gael eu trechu yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr.

Roedd Arglwyddi wedi pleidleisio dros ddau gynnig i ohirio’r toriadau yn dilyn rhybuddion am yr effaith y byddai’r newidiadau yn ei gael ar y teuluoedd tlotaf.

Roedd y bleidlais wedi arwain at argyfwng cyfansoddiadol ar ôl i Arglwyddi herio cytundeb i beidio atal mesurau ariannol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Dy’r Cyffredin.

Mae David Cameron wedi galw am “adolygiad brys” o’r cyfansoddiad.

Dywedodd George Osborne: “Mae David Cameron a fi yn glir bod hyn yn codi materion cyfansoddiadol sydd angen mynd i’r afael a nhw.

“Serch hynny, mae wedi digwydd a nawr mae’n rhaid i ni fynd i’r afael a’r canlyniadau hynny. Nes i ddweud byswn i’n gwrando, a dyna’n union beth rwy’n bwriadu ei wneud.”

Ychwanegodd:  “Rwy’n credu y gallwn ni gyflawni’r un nod o ddiwygio credydau treth, gan arbed yr arian y mae angen i ni wneud i sicrhau ein heconomi, tra ar yr un pryd yn helpu yn y cyfnod wrth gyflwyno’r newidiadau.”

Mae disgwyl iddo amlinellu’r newidiadau i’w gynlluniau i dorri credydau treth yn Natganiad yr Hydref.

Fe fydd y Canghellor yn wynebu Aelodau Seneddol yn ddiweddarach heddiw ac mae disgwyl iddyn nhw alw am ddatganiad llawn.

Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi dweud bod pobl wedi cael eu “synnu” am y modd yr oedd y Canghellor wedi bwrw mlaen a’r cynlluniau er gwaetha’r rhybuddion y byddai miloedd o bobl ar eu colled.

Dywedodd bod y canlyniad neithiwr yn dangos bod angen gwyrdroi’r polisi.

‘Tro pedol’

Roedd Arglwyddi Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi pleidleisio o blaid y ddau gynnig i ohirio’r toriadau am dair blynedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe.

Dywedodd Dafydd Wigley ar ôl y bleidlais: “Nid oedd y toriadau yma yn rhan o faniffesto’r Blaid Geidwadol.

“Fe fu methiant ar ran y Llywodraeth Geidwadol i ddeall cymaint yw’r gwrthwynebiad i’r mater pwysig hwn, a nawr mae’r Canghellor wedi cael ei orfodi i wneud tro pedol.

“Roeddwn yn falch bod yr ail siambr wedi gallu rhoi llais i bobl sy’n agored i niwed ar y mater hwn.”