Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb yn dilyn “pryderon difrifol” am addysg a goruchwyliaeth bydwragedd yng ngogledd Cymru.

Yn ôl ymchwiliad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru (CNB), nid yw addysg bydwragedd yn cyrraedd nifer o safonau disgwyliedig.

Fe wnaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gynnal ymchwiliadau ym mis Gorffennaf eleni, gan ganolbwyntio ar raglenni Prifysgol Bangor a chynllun arall gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

‘Angen gwelliannau ar frys’

Yn ei adroddiad dywedodd y CNB:  “Nid yw’r AGLl (Awdurdod Goruchwylio Lleol) yn bodloni’r gofynion angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod yr AGLl yn cydymffurfio â rheolau a safonau bydwragedd.

“Mae systemau a phrosesau rheoli risg yn wan ac mae angen gwneud gwelliannau sylweddol ar frys er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal yn dilyn pryderon am y penderfyniad i ad-drefnu gwasanaethau mamolaeth dros dro yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r cyngor bellach wedi galw am sicrhad y bydd safonau’n cael eu cynnal ac y bydd diogelwch y cyhoedd yn cael ei amddiffyn.

‘Tawelwch meddwl’

Dywedodd yr Athro Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod y bwrdd wedi “cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r argymhellion” sy’n cael eu gwneud yn yr adroddiadau.

Ychwanegodd: “Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor a’r Awdurdod Arolygu Lleol i fynd i’r afael â’r canfyddiadau ac i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n sicrhau bod safon yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio a Myfyrwyr Bydwragedd, o’r safon uchaf posibl.

“Hoffem roi tawelwch meddwl i’n cleifion o ran ansawdd a safon addysg i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yng Ngogledd Cymru, ac i roi gwybod ein bod wedi mynd i’r afael â’r materion a godwyd ynghylch goruchwylio bydwragedd.”

Dywedodd y  Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth  y bydd yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru er mwyn gwella’r addysg.

Ym mis Mehefin cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi o dan fesurau arbennig, ac fe gyhoeddwyd wythnos diwethaf y bydd yn parhau dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.