Ken Skates
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n sicrhau grant o hyd at £1.2 miliwn ar gyfer adeiladau hanesyddol a chofebion rhyfel ar hyd a lled Cymru.

Y bwriad yw gwarchod, adfer a diweddaru’r adeiladau sy’n “rhan bwysig o fywyd diwylliannol Cymru,” yn ôl Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Mae mwy na 3,000 o fannau addoli rhestredig i’w cael yng Nghymru, ac fe fydd nifer fawr ohonyn nhw’n elwa o’r cyllid hwn.

“Ar hyn o bryd mae tua 10% o’r mannau addoli rhestredig dan fygythiad, a heb gymorth ariannol mae’r ffigur hwn yn debygol o godi,” meddai Ken Skates.

Fe fydd y grantiau’n canolbwyntio ar adfer, gwarchod, gwella mynediad i’r cyhoedd a datblygu opsiynau tymor hir i’r adeiladau.

‘Prosiectau cyffrous er lles cadwraeth’

Un o’r mannau fydd yn elwa o’r arian yw Eglwys Sant Ioan yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Bydd yr eglwys honno’n derbyn £100,000 o gyllid i’w hadnewyddu’n fflatiau – a hithau heb gael ei defnyddio fel man addoli am fwy nag ugain mlynedd.

Mae’r eglwys hefyd wedi’i dethol i dderbyn £300,000 gan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Llywodraeth Cymru. Fe fydd y cyllid ychwanegol felly yn sicrhau y bydd ei nodweddion hanesyddol yn cael eu cadw yn ystod y gwaith adnewyddu.

Mae’r prosiectau eraill yn cynnwys:

  • Eglwys Deiniol Sant, Llanuwchllyn, y Bala, a fydd yn derbyn £30,000 i’w hadnewyddu’n ganolfan dreftadaeth, canolfan i’r gymuned a hostel.
  • Eglwys Sant Llawddog, Cilgerran, Sir Benfro, a fydd yn derbyn £20,000 i wella defnydd y cyhoedd o’r eglwys ynghyd ag ychwanegu gwasanaethau dehongli a llwybr treftadaeth i gysylltu ag un o safleoedd Cadw sydd gerllaw.

Bydd dwy gofeb ryfel hefyd yn derbyn arian, gan gynnwys Tŵr Cloc Eglwys yr Holl Saint yn Rhydaman, ac Organ Eglwys Sant Curig Porthceri ym Mro Morgannwg.

“Yn gynharach eleni, fe gyflwynais Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a fydd yn deddfu i ofalu’n well am ein hadeiladau a’n henebion hanesyddol pwysig,” meddai Ken Skates.

Am hynny mae’n “falch ein bod yn cefnogi prosiectau cyffrous er lles cadwraeth ar hyd a lled Cymru, a fydd yn arwain y ffordd wrth warchod ein gorffennol i Gymru’r dyfodol.”