Jeremy Corbyn
Mae Llysgennad Saudi Arabia ym Mhrydain wedi rhybuddio dros “sgil-effeithiau a allai fod yn ddifrifol” o chwalu perthynas y wlad a’r Deyrnas Unedig.

Mewn erthygl i’r Daily Telegraph, fe wnaeth y Tywysog Mohammed bin Nawaf bin Abdulaziz hefyd gwyno am “ddiffyg parch” tuag at Saudi Arabia.

Yn yr erthygl, fe wnaeth sôn yn bennaf am ganslo’r cytundeb i hyfforddi staff carchardai yn y wlad gyfoethog, gan ddweud bod “newid brawychus yn y ffordd y mae Prydain yn trafod Saudi Arabia.”

“Rydym am i’r perthynas hwn (â’r DU) barhau ond nid ydym am gael pregeth gan unrhyw un,” meddai, gan alw ar Brydain i barchu ei system lem o gyfraith Sharia.

“Un enghraifft o’r diffyg parch oedd pan wnaeth Jeremy Corbyn, arweinydd yr wrthblaid, honni ei fod wedi perswadio’r Prif Weinidog David Cameron i ganslo cytundeb ymgynghorol ar garchar â Saudi Arabia, oedd yn werth £5.9 miliwn.”

Corbyn yn lobïo yn erbyn y cytundeb

Fe wnaeth Jeremy Corbyn, arweinydd y blaid Lafur lobïo yn erbyn y cytundeb ar y pryd, gan alw ar y llywodraeth i ymyrryd dros nifer o bryderon am hawliau dynol yn Saudi Arabia, gan gynnwys bwriad i ddienyddio protestiwr oedd yn 17 oed.

Mae Downing Street yn dweud eu bod wedi tynnu nôl o’r cytundeb am resymau ariannol, ac nad oedd cysylltiad ag achosion diweddar fel y bygythiad i chwipio Prydeiniwr 74 oed am dorri cyfreithiau llym y wlad yn erbyn alcohol.

Mae erthygl y llysgennad wedi codi gwrychyn sawl un, gan gynnwys Kate Higham, o’r sefydliad hawliau dynol, Reprieve.

“Yn ôl camdybiaeth Llywodraeth Saudi Arabia, dylai Prydain nid yn unig gau ei cheg am eu camdriniaethau ofnadwy – dylwn hefyd fod yn eu cefnogi.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ddeall na fydd unrhyw wlad ag unrhyw barch tuag at hawliau dynol eisiau mynd yn agos at eu system o ‘gyfiawnder’ nes y byddan nhw’n  stopio’r camdriniaethau ofnadwy hyn yn y wlad.”