Mae arwydd Cymraeg wedi ymddangos bellach yng ngorsaf drenau Heol y Frenhines, Caerdydd.

Arwydd Saesneg oedd yno’n wreiddiol gan y cwmni Network Rail, ac wedi cyfnod o brotestio yn ystod mis Gorffennaf, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch i weld yr arwydd Cymraeg yn ei le.

“Rydym wrth ein bodd bod yr ymgyrch wedi llwyddo,” meddai Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Ond rhaid i ni ofyn: pam bod rhaid i ni barhau i brotestio am arwyddion yn y Gymraeg?”

‘Methu’r cyfle’

Mae Carl Morris ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru i wneud mwy, ac mae’n dweud: “Hyd yn oed heb gynnig unrhyw eglurhad i’r cyhoedd, fe gymerodd Comisiynydd y Gymraeg gannoedd o gyrff allan o’r ddeddf gan gynnwys Network Rail, allan o’r gyfundrefn newydd o hawliau ieithyddol.

“Mae’r methiant rheoleiddio yma yn golygu bod rhaid i ni brotestio er mwyn cael arwyddion Cymraeg sylfaenol mewn gorsaf drenau.  Heb ofynion cyfreithiol cryf, mae pobl yn cael eu gorfodi i brotestio er mwyn cael y mwyaf sylfaenol o hawliau iaith.”

“Er ein bod yn croesawu’r newyddion bod ein protestiadau wedi llwyddo, mae’n hen bryd i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau bod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn hawl i bawb yn y wlad, nid rhywbeth mae rhaid i ni brotestio drosto, drosodd a throsodd.”