Roedd cricedwr 19 oed o Ben-y-bont ar Ogwr ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu pan darodd car i mewn i loches ysmygu ym Mhorthcawl fore Sul.
Roedd Tom Dalton ymhlith 13 o bobol a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Mae’n aelod o dîm Pen-y-bont ar Ogwr yn Uwch Gynghrair Cymru, ail dîm Morgannwg ac o garfan Cymru.
Yn dilyn llawdriniaeth ar ei goesau a barodd saith awr, mae Tom Dalton yn parhau yn yr ysbyty.
Ar ei dudalen Twitter ddoe, dywedodd: “Diolch enfawr i bawb oedd wedi fy helpu neithiwr, ac am y negeseuon caredig y bore ma! Teimlo’n lwcus eithriadol i fod yn fyw hyd yn oed.”
Roedd e wedi trydar llun ohono’i hun yn yr ysbyty.
Dywedodd Clwb Criced Morgannwg ar eu tudalen Twitter heddiw: “Dymuniadau gorau am wellhad buan i @tom_dalts9 ar ôl llawdriniaeth ac i’r gweddill gafodd eu hanafu. Digwyddiad syfrdanol #Porthcawl”.
‘Hwyliau da’
Mewn datganiad, dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Steve Watkin: “Fe glywson ni am y digwyddiad syfrdanol ac ry’n ni wedi bod mewn cyswllt â Tom, sy’n parhau mewn hwyliau da.
“Chwaraeodd Tom i’r ail dîm y llynedd ac roedd e’n ddeuddegfed dyn i’r tîm cyntaf ar gyfer un gêm, felly ry’n ni’n ei nabod e’n dda.
“Mae pawb yng Nghlwb Criced Morgannwg yn anfon eu dymuniadau gorau i Tom a’r gweddill a gafodd eu hanafu am wellhad buan.”
Mae Tom Dalton wedi bod yn aelod o dîm Cymru ers 2014, ac fe ymddangosodd yn ail dîm Morgannwg am y tro cyntaf y tymor diwethaf.
Cefndir
Mae Ryan Ford wedi’i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol wrth yrru’n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol, o fod yn gysylltiedig â lladrad, a gyrru heb yswiriant.
Anafwyd 13 o bobol wrth i gar Audi S4 daro i mewn i loches ysmygu y tu allan i glwb nos Streets, yn Stryd John, Porthcawl bore dydd Sul.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad.
Ymddangosodd Ryan Ford gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun, a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Dachwedd 9.