Nigel Owens
Mae Nigel Owens wedi cael ei gadarnhau heddiw fel y dyfarnwr ar gyfer ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd dydd Sadwrn.

Bydd y Cymro yn gyfrifol am yr ornest rhwng Awstralia a Seland Newydd i benderfynu pwy fydd pencampwyr y byd, ar ôl i’r ddau dîm ennill yn eu rowndiau cynderfynol dros y penwythnos.

Roedd disgwyl mai Nigel Owens fyddai’n cael ei ddewis i ddyfarnu’r gêm, yn enwedig gan mai Jerome Garces a Wayne Barnes oedd wedi cael cyfrifoldeb dros y gemau cynderfynol.

Mae’r gŵr 44 oed o Fynyddcerrig yn uchel ei barch o fewn y byd rygbi ac wedi ennyn clod am fod yn un o’r dyfarnwyr gorau yn y gamp dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd ei ganmol gan un o ddewiswyr y Crysau Duon, Grant Fox, dros y penwythnos am ei allu dyfarnu a’i steil o adael i’r chwarae lifo.

Mae Nigel Owens hefyd yn un o’r bobl hoyw mwyaf adnabyddus ym myd y campau, ac yn ymwneud â nifer o ymgyrchoedd ac elusennau LGBT.

Hon yw’r trydydd Cwpan Byd iddo ddyfarnu ar ôl cystadlaethau 2007 a 2011, ac fe fydd yr ail Gymro i ddyfarnu’r ffeinal ar ôl Derek Bevan yn 1991 yn ystod yr ornest rhwng Lloegr ac Awstralia.