Michael Collins
Mae’r Scarlets wedi arwyddo’r canolwr 22 oed o Seland Newydd, Michael Collins, er mwyn cryfhau’r garfan yn absenoldeb Scott Williams a Liam Williams.

Bydd Collins, sydd yn gymwys i chwarae dros Gymru dros ei dad-cu sydd yn dod o Lanelli, yn ymuno â’r rhanbarth ar gytundeb tymor byr.

Mae’r Kiwi, sydd hefyd yn gallu chwarae fel cefnwr, yn ymuno â’r Scarlets wedi i ymgyrch ei glwb Otago ym Mhencampwriaeth Cwpan yr ITM ddod i ben yn erbyn Wellington.

Cafodd Collins ei eni yn Queenstown ac roedd yn gyn-gapten ar dîm Ysgol Uwchradd Bechgyn Otago cyn mynd ymlaen i ennill pum cap dan-20 dros Seland Newydd.

“Mae Michael yn chwaraewr amryddawn sydd â sgiliau da ac sydd wedi chwarae yng nghanol cae ac fel cefnwr i Otago yng Nghwpan ITM,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac, sydd hefyd o Seland Newydd.

“Rydyn ni wedi dod ag e i mewn er mwyn cryfhau’r tîm ar ôl anafiadau Scott a Liam ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei groesawu i orllewin Cymru at y Scarlets.”