Dave Edwards oedd yr unig Gymro i sgorio yn y ddwy brif adran y penwythnos yma (llun: Ethelred/cc.20)
Doedd dim golwg o Gareth Bale ac Aaron Ramsey i’w clybiau’r penwythnos yma, wrth i’r ddau wella o’u hanafiadau diweddar sydd wedi achosi tipyn o ffrae yr wythnos yma.

Ond roedd rhai o Gymry’r Uwch Gynghrair sydd yn ffit fodloni â lle ar y fainc yr wythnos hon – ac ambell un a chwaraeodd o bosib yn gobeithio y gallan nhw fod wedi bod ymysg yr eilyddion hefyd.

Cafodd Paul Dummett a Newcastle benwythnos i’w anghofio wrth iddyn nhw golli 3-0 yn y ddarbi leol yn erbyn Sunderland ar ôl i Fabrizio Coloccini weld cerdyn coch.

Roedd Ashley Williams a Neil Taylor yn amddiffyn Abertawe unwaith eto wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 2-1 mewn gêm flêr yn erbyn Aston Villa, ac fe ddechreuodd James Collins i West Ham wrth iddyn nhw guro Chelsea o’r un sgôr.

Gwylio o’r fainc oedd Andy King a Joe Ledley fodd bynnag wrth i Gaerlŷr drechu Crystal Palace o 1-0, gyda Jamie Vardy yn codi’r bêl yn hyfryd dros Wayne Hennessey cyn gorffen y cyfle ar gyfer unig gôl y gêm.

Ar y fainc yn unig oedd Joe Allen i Lerpwl a James Chester i West Brom hefyd, gyda Ben Davies ddim hyd yn oed yn cael lle yng ngharfan Spurs.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth fe lwyddodd Sam Vokes a Burnley i gipio buddugoliaeth o 1-0 yn eu darbi leol nhw â Blackburn, ond y tîm cartref reolodd y rhan fwyaf o’r gêm ac fe allan nhw fod wedi cael cic o’r smotyn pan gafodd Tom Lawrence ei faglu yn y cwrt cosbi.

Peniodd Dave Edwards gôl agoriadol Wolves i’w rhoi nhw ar y blaen yn erbyn Middlesbrough, ond fe frwydrodd yr ymwelwyr nôl ac ennill y gêm o 3-1.

Dechreuodd Jonny Williams a David Vaughan i Nottingham Forest wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ag Ipswich ac roedd Joniesta yn edrych yn fywiog, ond fe ddaeth oddi ar y cae ar ôl 67 munud ychydig funudau ar ôl ennill ei bumed gic rydd i’w dîm, a dyw hi ddim yn glir eto a oedd hynny oherwydd anaf.

Daeth Jazz Richards oddi ar y cae yn yr hanner cyntaf ag anaf wrth i Fulham drechu Reading a Chris Gunter o 4-2, wrth i ddau o gefnwyr dde Cymru wynebu ei gilydd.

Dechreuodd Andrew Crofts i Brighton wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr â Preston, ond colli gartref oedd hanes Morgan Fox gyda Charlton, ac Emyr Huws a Joel Lynch gyda Huddersfield.

Collodd Simon Church a MK Dons hefyd o 3-0 yn erbyn QPR, oedd â Michael Doughty ar y fainc, ac fe ddaeth David Cotterill oddi ar y fainc ar yr egwyl i Birmingham yn erbyn Hull, ond erbyn hynny roedd ei dîm eisoes 2-0 ar ei hôl hi ac felly yr arhosodd hi.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe arhosodd Aberdeen yn ail gyda gêm gyfartal o 1-1 yn erbyn Motherwell, gyda Danny Ward yn gwneud sawl arbediad da i gadw’i dîm ynddi ac Ash Taylor hefyd yn chwarae 70 munud.

Ond colli o 1-0 wnaeth Owain Fôn Williams ac Inverness, wrth i St Johnstone gael cic o’r smotyn yn y munud olaf.

Ac yng Nghynghrair Un, er i’w dîm gael gêm gyfartal o 4-4 yn erbyn Colchester, ni lwyddodd ymosodwr Walsall Tom Bradshaw i greu na sgorio’r un o’r goliau.

Seren yr wythnos – James Collins. Nôl yn amddiffyn West Ham ac yn helpu’i dîm i sicrhau buddugoliaeth nodweddiadol arall.

Siom yr wythnos – Ben Davies. Dechrau i Spurs yn Ewrop nos Iau, ond ddim hyd yn oed ar y fainc dydd Sul. Gobeithio na fydd hwn yn batrwm parhaol.