Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 45 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Stockport nos Sadwrn.
Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn ag anafiadau yn y dref am oddeutu 9 o’r gloch.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ond fe fu farw’n ddiweddarach.
Mae dynes 48 oed a dyn 29 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.
Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.