Mae ennill seddi yng Nghymru’n flaenoriaeth i UKIP, meddai Nigel Farage, ond nid yw’r arweinydd yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Farage wrth raglen ‘Sunday Politics Wales’ y BBC fod Cymru’n “brif flaenoriaeth” i’r blaid.
Dywedodd: “Nid yw’r bobol sy’n sefyll yn y Cynulliad yng Nghaerdydd yn gwneud hynny fel mudiad protest.
“Rydyn ni’n gwneud hynny gyda meddylfryd positif… i wneud ein gorau dros bobol yng Nghymru sy’n ein hethol ni.
“Os yw hynny’n golygu bod yn wrthblaid adeiladol, neu pe bai’n golygu helpu mewn unrhyw fodd yn y llywodraeth, bydden ni’n barod iawn i gyflawni’r naill swyddogaeth neu’r llall.”
Mae Farage hefyd wedi mynegi ei ddymuniad i weld ysgolion gramadeg yn cael eu hail-sefydlu yng Nghymru.