Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad ym Mhorthcawl yn ystod oriau man y bore ’ma.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod fan yr heddlu’n cwrso car cyn iddo daro i mewn i gaban ysmygu y tu allan i glwb nos yn y dref am 1 o’r gloch y bore ’ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd John yn dilyn y digwyddiad y tu allan i glwb nos Streets am oddeutu 1 o’r gloch y bore.

Mae dyn 24 oed o Borthcawl wedi’i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac o yrru’n beryglus, tra bod dynes 18 oed yn cael ei holi gan yr heddlu.

Ymatebodd 13 o ambiwlansys i’r alwad, a chafodd 13 o bobol rhwng 17 a 43 oed eu cludo i’r ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe ag amryw anafiadau nad ydyn nhw wedi peryglu eu bywydau.

Mae tri o bobol eisoes wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty wedi iddyn nhw dderbyn triniaeth.

Mae wyth o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol, ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De fod yr heddlu’n trin y digwyddiad fel un “sylweddol”.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu’r ffordd yr oedd yr Audi A4 gwyn yn cael ei yrru cyn y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.