Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan wedi beirniadau sylwadau cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair am ryfel Irac.
Roedd Blair wedi ymddiheuro’n rhannol ar orsaf CNN yn yr Unol Daleithiau am gamgymeriadau a gafodd eu gwneud adeg y rhyfel ynghylch cudd-wybodaeth ffals.
Ond mae nifer wedi’i feirniadu am amseru’r sylwadau, ar drothwy cyhoeddi amserlen adroddiad Chilcot am y rhyfel.
Dywedodd Dr Barry Morgan y dylai Blair fod wedi ystyried goblygiadau mynd i ryfel.
Dywedodd wrth raglen ‘Sunday Supplement’ BBC Radio Wales fod rhaid i Blair “fyw gyda’i gydwybod”.
“Mae’n ymddangos ei fod wedi bod yn fyrbwyll wrth fynd i ryfel heb feddwl am oblygiadau’r hyn fyddai’n digwydd wedyn.
“Mae’n ymddangos i mi, os mai chi yw’r Prif Weinidog, nad oes diben gwaredu un gyfundrefn heb feddwl am yr hyn sy’n mynd i’w olynu.
“O leiaf mae e wedi cyfaddef fod hynny’n gamgymeriad, ond buaswn i wedi meddwl os ydych chi’n aelod o’r wladwriaeth, y dylsech chi fod wedi meddwl am hynny cyn gweithredu.”