Mae’r actores Wyddelig Maureen O’Hara wedi marw’n 95 oed yn yr Unol Daleithiau.
Roedd hi’n un o sêr y ffilm ‘How Green Was My Valley’.
Daeth cadarnhad o’i marwolaeth gan ei rheolwr, Johnny Nicoletti.
Dywedodd Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins ar ymweliad â’r Unol Daleithiau y byddai O’Hara “yn cael ei chofio fel actores eithriadol ac amryddawn” ac y byddai ei gwaith “yn para am flynyddoedd i ddod”.
Ymddangosodd hi yn y ffilm ‘The Hunchback of Notre Dame’ yn 1939, ynghyd â ‘How Green Was My Valley’ yn 1941, oedd yn olrhain hanes teulu yng nghymoedd glo de Cymru.
Enillodd y ffilm honno bum Oscar.
Ymddangosodd O’Hara ochr yn ochr â John Wayne yn ‘The Quiet Man’ a nifer o ffilmiau eraill.