Y Cymro Cymraeg o Fynyddcerrig, Nigel Owens fydd yn dyfarnu rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd, yn ôl adroddiadau’r wasg yn Seland Newydd.
Ni fydd y penodiad yn cael ei gadarnhau tan yr wythnos nesaf, ond mae un o ddewiswyr y Crysau Duon, Grant Fox wedi dweud bod y garfan wedi cael gwybod cyn y rownd gyn-derfynol mai Owens fyddai’n dyfarnu’r ornest fawr.
Cyrhaeddodd Seland Newydd y rownd derfynol neithiwr wedi iddyn nhw drechu De Affrica o 20-18 yn Twickenham.
Byddan nhw’n wynebu Awstralia neu’r Ariannin yn yr un cae y penwythnos nesaf – bydd y ddwy wlad honno’n mynd ben-ben y prynhawn yma.
Dywedodd Grant Fox wrth Newstalk ZB: “Nigel, yn amlwg iawn, yw’r dyfarnwr gorau yn y byd – mae e wedi dangos hynny.
“Roedden ni’n gwybod cyn yr ornest hon ei fod e wedi cael y swydd pe baen ni’n cael y cyfle i chwarae yn yr ornest honno (y ffeinal).”
Dywedodd Fox fod Seland Newydd yn hoff o ddull dyfarnu Owens, oedd yn y canol ar gyfer y rownd go-gyn derfynol ar gyfer yr ornest rhwng y Crysau Duon a Ffrainc yr wythnos diwethaf.
“Fel pob dyfarnwr, fe fydd e’n gwneud ambell gamgymeriad,” meddai Fox.
Ond ychwanegodd Fox ei fod yn gadael i’r ornest lifo.