Mae bachgen 9 mlwydd oed wedi’i daro i lawr a’i ladd ar ffordd brysur yn yr Alban.

Fe gafodd ei daro gan gar Ford C Max o liw glas ar ffordd yr A90 – y brif ffordd rhwng Perth a Dundee – ger Longforgan, Perth a Kinross. Fe fu’r ffordd ar gau tra bu ymchwilwyr yn cael golwg ar safle’r ddamwain, ond mae hi bellach ar agor.

Doedd yna ddim un cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad, a chafodd neb arall ei anafu yn y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu’r Alban yn gofyn i dystion gysylltu â nhw ar y rhif 101.