Male, prifddinas Maldives
Mae dirprwy arlywydd y Maldives, Ahmed Adeeb, wedi’i arestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â ffrwydriad ar gwch arlywyddol y wlad fis diwetha’.

Mae heddlu wedi cadarnhau fod Ahmed Adeeb wedi’i arestio yn y maes awyr, wrth iddo ddychwelyd o daith swyddogol i China.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad ar fwrdd y cwch ar Fedi 28, pan oedd yr arlywydd, Yameen Abdul Gayoom a’i wraig yn dychwelyd i’r brifddinas, Male, o’r maes awyr, wedi pererindod i Sawdi Arabia.

Fe ddihangodd Mr Gayooom yn ddianaf, ond fe gafodd ei wraig, cynorthwy-ydd a swyddog diogelwch eu hanafu yn y ffrwydriad.