Mae dyn wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu mewn eiddo yn Swydd Caergrawnt.
Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn St Neots am 7.45yh nos Fercher yn dilyn pryderon am bobl oedd yn yr eiddo.
Cafodd y dyn, y credir oedd yn ei 40au, ei saethu’n farw gan swyddogion arfog toc wedi 8yh, meddai Heddlu Swydd Caergrawnt.
Dywedodd llefarydd bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle ac na chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad.
Roedd yr heddlu wedi cysylltu â’r IPCC neithiwr am 9.30yh.