Sameena Imam
Mae dau frawd wedi cael eu carcharu am o leiaf 30 mlynedd am lofruddio dynes o Gaerdydd ar noswyl Nadolig.
Yn Llys y Goron Birmingham ddoe cafwyd Roger Cooper, 41 oed, a weithiai fel rheolwr yn siop Costco, ynghyd â David Cooper, 39 oed, oedd yn gyn-filwr, yn euog o ladd Sameena Imam, 34 oed y llynedd.
Daethpwyd o hyd i’w chorff mewn rhandir yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr ar ôl cael ei lladd â chlorofform.
Wrth eu dedfrydu heddiw dywedodd y barnwr Patrick Thomas QC bod y brodyr wedi “cynllwynio i’w lladd mewn gwaed oer, heb ystyried y canlyniadau.”
‘Rhybudd olaf’
Roedd Sameena Imam, a oedd yn byw yng Nghaerdydd, wedi cynnal perthynas am ddwy flynedd â Roger Cooper, ac wedi rhoi’r rhybudd olaf iddo i adael ei bartner.
Roedd hi’n gweithio fel rheolwr marchnata yn siopau Costco yng Nghaerdydd, Southampton, Bryste a Coventry.
Yn dilyn achos a barodd am wyth wythnos, fe glywodd y llys fod Roger Cooper wedi bod yn cynllwynio i’w lladd am o leiaf mis, er mwyn ei hatal rhag datgelu’r berthynas.
Roedd hi’n un o dair o gariadon iddo.
Fe wnaeth y dynion gyfathrebu mewn negeseuon testun wedi’u hysgrifennu mewn côd Star Wars cyn defnyddio clorofform i ladd Sameena Imam.
Roedd aelodau o’i theulu yn Essex wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl iddi fethu a dychwelyd adref dros y Nadolig.
Cafodd y ddau frawd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar 7 Ionawr – wythnos cyn i’w chorff gael ei ddarganfod yng Nghaerlŷr.