Awyren Linksair
Mae cwmni awyrennau Linksair, sy’n cynnal y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, wedi colli ei drwydded ddiogelwch.
Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil fod y cam er mwyn “diogelu’r cyhoedd sy’n teithio”.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ansicrwydd y sefyllfa.
Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y blaid, Andrew RT Davies: “Rhaid i weinidogion Llafur egluro’r sefyllfa ynghylch Linksair ar unwaith.
“Cafodd cytundeb y cwmni ei adnewyddu’r llynedd – ar gost sylweddol i drethdalwyr. Nawr mae’n ymddangos bod y cytundeb cyfan yn y fantol.
“Mae cymunedau’n haeddu gwybod os yw’r llwybr yn parhau i weithredu o fewn y fframwaith presennol neu os yw arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio.”
Ychwanegodd fod “angen sicrhau rhagor o dryloywder yn y gwerth am arian cyhoeddus”.
Dywedodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, William Graham bod maes awyr llewyrchus yn “hanfodol er mwyn i Gymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol”.
“Mae manteision cysylltiadau rhyngwladol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i dwristiaeth ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth ddenu buddsoddiad i mewn ac wrth ddatblygu masnach.”
Ychwanegodd fod strategaeth effeithiol yn hanfodol er mwyn datrys y sefyllfa.
Fe fydd cwmni North Flying o Ddenmarc yn cynnal y gwasanaeth bellach.