Fe fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ymchwilio i’r problemau trafnidiaeth gyhoeddus a gododd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd.
Roedd oedi sylweddol droeon wrth i gefnogwyr aros am drenau, oedd wedi’u gorlenwi drwy gydol y gystadleuaeth.
Fel rhan o’r ymchwiliad, bydd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn holi Great Western Railway, Arriva Cymru, Network Rail, Cyngor Caerdydd a threfnwyr Cwpan Rygbi’r Byd am natur y trafferthion, a’r gwersi sydd wedi cael eu dysgu o’r helynt.
Mae amcangyfrifon fod Cwpan Rygbi’r Byd yn werth £316 miliwn i economi Caerdydd.
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod ar Dachwedd 5.
‘Lliwio profiadau’
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, William Graham AC: “Roedd Cwpan Rygbi’r Byd yn gyfle gwych i groesawu’r byd i Gymru a Chaerdydd.
“Fodd bynnag, mae arnaf ofn y bydd problemau trafnidiaeth gyhoeddus yn lliwio profiadau llawer o bobl, a gallai hyn atal pobol oedd yn meddwl ymweld yn y dyfodol.
“Wrth gwrs, mae Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn gwneud hynny eto gyda digwyddiadau fel Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd flwyddyn nesaf a Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017.
“Er mwyn gwireddu manteision economaidd y digwyddiadau hyn, mae’n hanfodol bwysig bod pobl yn gallu teithio yma, teithio oddi yma a theithio o amgylch y wlad mor hawdd â phosibl.
“Felly, bydd y Pwyllgor yn edrych yn arbennig ar ba wersi a ddysgwyd at y dyfodol.”