Michael Meacher
Mae’r  Aelod Seneddol Llafur, Michael Meacher,  wedi marw yn 75 oed wedi salwch byr.

Roedd wedi cynrychioli tref Oldham, ger Manceinion ers 1970, yn gyn-weinidog yng nghabinet Tony Blair ac wedi gwasanaethu am gyfnod hir yng nghabinet yr wrthblaid.

Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn talu teyrnged iddo mae cyn-arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband.

Dywedodd bod Michael Meacher yn ddyn “egwyddorol, caredig, meddylgar, ac yn hollol ymrwymedig i greu byd tecach.”

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, bod Michael Meacher yn ddyn a “gweledigaeth ddeallusol” a oedd “o flaen ei amser” wrth ymgyrchu dros yr amgylchedd.

Ac yn ol Caroline Lucas AS o’r Blaid Werdd roedd yn “wleidydd gwych ac ymgyrchydd amgylcheddol brwd” gan ychwanegu “fe fydd colled mawr ar ei ol.”

Roedd yn Weinidog Amgylchedd am chwe blynedd yn ystod cyfnod Tony Blair fel Prif Weinidog.

‘Parch’

“Rydym yn hynod o drist ac mae wedi bod yn salwch eithaf byr a dydyn ni ddim yn gwybod y manylion ar hyn o bryd,” meddai ei gynorthwyydd personol a rheolwr ei swyddfa, Peter Dean, wrth yr Oldham Evening Chronicle.

“Roedd gan bobl barch mawr tuag ato a byddwn yn ceisio delio ag unrhyw broblemau parhaus yn yr ardal. Byddwn yn helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.

“Rydym yn drist iawn dros ei deulu ond mae’r staff yn ei swyddfa wedi gweithio gydag ef ers 20 mlynedd felly ma’n teimlo  fel colli aelod o’r teulu i ni.”

Dywedodd Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite: “Roedd yn ffigwr aruthrol o fewn y mudiad Llafur, gan neilltuo ei fywyd i wella bywydau pobl sy’n gweithio, ac oherwydd hynny bydd  wastad yn cael ei gofio gyda hoffter.”

Mae ei farwolaeth yn golygu y bydd Llafur yn cynnal yr is-etholiad cyntaf o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn. Fe lwyddodd Michael Meacher i gynyddu ei fwyafrif yn mis Mai i 14,738.

Roedd ganddo bedwar o blant gyda’i wraig gyntaf, y Farwnes Meacher, ac mae’n gadael gweddw.