Mae pennaeth Network Rail wedi cyfaddef bod y gost o gwblhau’r gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd wedi codi i £2.8 biliwn,

Ym mis Ionawr 2013, amcangyfrifwyd y byddai’r gost o drydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Paddington, Llundain a Chaerdydd yn £874 miliwn.

Fe gododd hynny i £1.5 biliwn ym mis Medi’r llynedd ond dywedodd prif weithredwr Network Rail, Mark Carne, wrth Aelodau Seneddol heddiw bod y ffigwr diweddaraf wedi codi i £2.5-2.8 biliwn yn seiliedig ar brisiau 2012.

Dywedodd mai un o’r rhesymau am y cynnydd oedd bod NR heb wneud unrhyw waith trydaneiddio sylweddol ers 20 mlynedd.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin dywedodd Mark Carne mai problem arall oedd “cynllunio annigonol” y prosiect yn ystod y cyfnod cynnar.

Pan ofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Meg Hillier, iddo os oedd yn cydnabod bod dyblu’r gost o fewn blwyddyn  yn “annerbyniol” fe atebodd: “Rwy’n derbyn bod hyn yn hynod o siomedig i bawb sy’n gysylltiedig.

“Dwi ddim yn credu ei fod yn cynrychioli’r math o berfformiad mae Network Rail wedi ei gyflwyno ar gymaint o brosiectau eraill ar draws y portffolio.”