Jeremy Corbyn
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi herio Prif Weinidog Prydain, David Cameron tros ei gynlluniau i dorri’r credyd treth.

Daw’r feirniadaeth ar ôl i un o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr, Heidi Allen ddweud y byddai’r cynlluniau’n golygu y byddai “effaith andwyol ar ormod o bobol”.

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, mynnodd Cameron fod y toriadau’n rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau a fyddai’n fuddiol i bobol sy’n gweithio.

Ond mae pwysau cynyddol ar y Llywodraeth i wneud tro pedol.

Heriodd Corbyn ei wrthwynebydd i egluro pam fod sylwadau Heidi Allen yn anghywir.

Wrth ateb, dywedodd Cameron: “Mae’r newidiadau i’r credyd treth yn rhan o becyn, pecyn sy’n cynnwys cyflog byw cenedlaethol uwch a lleihad mewn trethi.

“Dw i’n credu mai dyna’r ffordd gywir ymlaen i’n gwlad – gadewch i ni wneud i waith dalu ar ei ganfed, gadewch i ni adael i bobol ennill mwy, gadewch i ni dorri eu trethi a gadewch i ni wneud lles yn fwy fforddiadwy.”

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr gyda mwyafrif o 22, ond mae disgwyl i’r Arglwyddi wrthwynebu rhannau helaeth o’r cynlluniau’r wythnos nesaf pan fyddan nhw’n mynd ati i graffu arnyn nhw.

Y bore ma, cafodd Cameron ei gyhuddo gan Corbyn o “newid ei feddwl” yn y cyfnod ers yr etholiad cyffredinol yn gynharach eleni.

Addawodd bryd hynny na fyddai’n torri’r credyd treth.

Gofynnodd Corbyn: “Oes yna unrhyw reswm pam fod y newid hwn wedi digwydd neu unrhyw reswm pam y dylen ni eich credu chi ynghylch y sicrwydd wnaethoch chi ei roi o ran credyd treth?”

Atebodd Cameron: “Yr hyn a ddywedais i cyn yr etholiad oedd y bydden ni’n lleihau lles o £12 biliwn fel rhan o leihau’r diffyg, fel rhan o roi hwb i’r economi ac fel rhan o greu dwy filiwn o swyddi – dyna ddigwyddodd yn yr etholiad ac rydym yn cadw at ein haddewid drwy sicrhau’r economi gryfach honno.”