Maes Awyr Caerdydd
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan eu bwriad i roi maes awyr y brifddinas yn ôl yn y sector preifat erbyn 2021, os byddan nhw’n ffurfio llywodraeth y flwyddyn nesaf.

Mewn dadl ar y maes awyr yn y Senedd y prynhawn ‘ma, bu llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Economi, William Graham AC yn pwysleisio “pwysigrwydd cysylltedd rhyngwladol” wrth dyfu’r economi a’r diwydiant twristiaeth.

Roedd hefyd wedi cadarnhau bwriad ei blaid i dynnu Maes Awyr Caerdydd o ddwylo cyhoeddus gan ei roi yn y sector preifat “cyn gynted â phosibl.”

Bwriad y Ceidwadwyr yw rhoi’r elw byddan nhw’n ei gael am ei werthu i “fuddsoddi mewn adeiladu a rhoi arian yn ôl i bocedi’r trethdalwyr.”

“Cynllun i adfer cyllid hirdymor”

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod maes awyr rhyngwladol ffyniannus yn hanfodol er mwyn i Gymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai William Graham AC.

“Yn anffodus, mae Maes Awyr Caerdydd yn cael trafferth cystadlu gyda’i gystadleuwyr agosaf, ddim yn unig o ran niferoedd y teithwyr ond o ran llwybrau ac adeiladu.

“Dyna pam bod strategaeth effeithiol ar gyfer twf yn hanfodol, ac mae Ein Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn gynllun positif i adfer ei gyllid hirdymor.”

Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013.

‘Sefydlog’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fe wnaethom achub Maes Awyr Caerdydd pan oedd mewn perchnogaeth breifat.

“Roedd yna wir berygl byddai’r maes awyr wedi cau heb ei’n ymyrraeth. Mae’r maes awyr nawr mewn sefyllfa llawer fwy sefydlog ac mae’n buddsoddiad wedi helpu sefydlogi nifer y teithwyr ar ôl blynyddoedd o ddirywiad a dros y misoedd diwethaf mae yna gynnydd positif wedi bod.

“Ein bwriad yw dychwelyd y maes awyr i’r sector preifat pan mae’r amodau’n iawn.”