Mae peilot wedi marw ar ol i awyren filwrol o’r Unol Daleithiaudaro’r ddaear ger Lakenheath yn Suffolk y bore ma, meddai Heddlu Swydd Caergrawnt.

Daeth yr awyren F-18 i lawr ar dir fferm ger safle RAF Lakenheath yn Ely, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 10.30yb.

Y peilot yn unig oedd yn teithio yn yr awyren.

Roedd yr awyren wedi gadael RAF Lakenheath cyn y ddamwain.